cynnig a gwella

Dyma’r term am ddull sy’n helpu i ddatrys hafaliad pan nad oes datrysiad union.

Rydym yn cynnig un gwerth yn lle newidyn yn yr hafaliad i weld a yw’n rhy fach neu’n rhy fawr. Yna, rydym yn gwella’r cynnig o ganlyniad i’r wybodaeth hon nes cyrraedd gwerth cywir.

Yn aml, bydd rhaid datrys hafaliad i fanwl gywirdeb penodol, er enghraifft i un lle degol.