anhafal ans
Arwydd: ≠
Mae pethau yn anhafal i’w gilydd os nad oes ganddyn nhw’r un gwerth.
Er enghraifft:
-
Mae 7 – 2 yn rhoi cyfanswm o 5, ac mae 4 + 2 yn rhoi cyfanswm o 6.
Gallwn ddweud bod y ddwy enghraifft hyn yn anhafal i’w gilydd gan nad oes ganddyn nhw’r un cyfanswm.
Rydym yn defnyddio’r arwydd ≠ i ddangos bod pethau’n anhafal i’w gilydd.