arian cyfred eg
Dyma’r term am gyfundrefn ariannol gwlad benodol.
Er enghraifft, arian cyfred y Deyrnas Unedig yw’r bunt (£), ac arian cyfred Unol Daleithiau America yw’r ddoler ($).
Mae Steffan yn mynd ar ei wyliau i Sbaen. Arian cyfred y wlad honno yw’r ewro (€). Y gyfradd gyfnewid yw £1 = €1.14, ac mae Steffan eisiau cyfnewid £400.
Felly, 400 × 1.14 = €456
Mae hyn yn golygu bod gan Steffan €456 i’w wario ar ei wyliau.