dosbarthol ans
Deddf yw hon sy’n dweud bod lluosi rhif â grŵp o rifau wedi eu hadio at ei gilydd, yr un peth â gwneud pob lluosiad ar wahân:
a × (b + c) = a × b + a × c ar gyfer pob gwerth o a, b, c.
Er enghraifft:
-
4 (50 + 6)
= (4 × 50) + (4 × 6)
= 200 + 24
= 224
Mae hyn hefyd yn wir am luosi rhif â grŵp o rifau wedi eu tynnu.
Er enghraifft:
-
4 × (50 – 2)
= (4 × 50) – (4 × 2)
= 200 – 8
= 192
Yn y ddwy enghraifft uchod, mae’r 4 yn cael ei ‘ddosbarthu’.