amnewid be
Dyma’r term am roi rhif yn lle newidyn mewn mynegiad algebraidd.
Er enghraifft, os ydym yn amnewid y rhif 2 am y newidyn y yn y mynegiad algebraidd 6y – 2, gallwn gyfrifo gwerth y mynegiad algebraidd fel hyn:
-
6y – 2
6 × 2 – 2
= 12 – 2
= 10