rheol sin eb

Mae’r rheol sin yn cael ei defnyddio i ddarganfod hyd ochr neu faint ongl sydd ar goll mewn triongl. Gall fod yn driongl ongl sgwâr neu’n driongl heb ongl sgwâr.

Mae’r rheol yn seiliedig ar y berthynas rhwng ongl a’r ochr sydd gyferbyn â hi mewn triongl.

Mae dwy ffurf i’r rheol:

(1) I ddarganfod hyd ochr:

    \[ \frac{a}{sin A} = \frac{b}{sin B} = \frac{c}{sin C} \]

(2) I ddarganfod maint ongl:

    \[ \frac{sin A}{a} = \frac{sin B}{b} = \frac{sin C}{c} \]

Mae’r llythrennau a, b, c yn cyfeirio at ochrau’r triongl, ac mae’r llythrennau A, B, C yn cyfeirio at yr onglau yn y triongl sydd gyferbyn â’r ochrau a, b, c.