digwyddiadau annibynnol ar ei gilydd ans

Dyma’r term am ddisgrifio digwyddiadau nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddyn nhw, ond mae’n bosibl cyfrifo eu tebygolrwydd.

Mae dau ganlyniad yn annibynnol os nad yw canlyniad y digwyddiad cyntaf yn effeithio ar ganlyniad yr ail ddigwyddiad.

Er enghraifft, ar gyfer dau ddigwyddiad annibynnol A a B, y tebygolrwydd (T) y bydd A a B yn digwydd yw T(A a B) = T(A) × T(B).

Meddyliwch am hyn yng nghyd-destun taflu dis ddwywaith.

Dyma’r tebygolrwydd y bydd chwech yn cael ei daflu y tro cyntaf a’r ail dro:

       T(dau chwech)

    \textmd= T(chwech a chwech)

    \textmd= T(chwech) × T(chwech)

    =\dfrac{1}{6} × \dfrac{1}{6}

    =\dfrac{1}{36}