rhannu be

Arwydd: ÷

Gweithrediad sy’n rhannu rhif yn gyfartal i nifer penodol o rannau.

Er enghraifft, mae 15 siocled mewn bocs ac mae 3 ffrind eisiau eu rhannu:

    15 ÷ 3 = 5

Felly, mae’r 3 ffrind yn cael 5 siocled yr un.

Weithiau, nid yw’n bosibl rhannu rhif yn union. Mae hyn yn golygu y bydd gweddill.

Er enghraifft, dyma’r canlyniad os yw’r 15 siocled yn cael eu rhannu rhwng 4 ffrind:

    15 ÷ 4 = 3 gweddill 3

Felly, mae’r 4 ffrind yn cael 3 siocled yr un ac mae 3 yn weddill.

Gweithrediad gwrthdro rhannu yw lluosi.

Mae hefyd yn bosibl rhannu wrth raddfa. Meddyliwch am bren mesur sydd fel arfer yn dangos graddfa centimetrau ar y top. Mae pob centimetr yn gallu cael ei rannu i gynrychioli milimetrau.