modfedd (modfeddi) eb
Uned: in neu " (dyfynnod dwbl).
Uned Imperial sy’n mesur hyd.
Felly, mae’n bosibl ysgrifennu 5 modfedd fel 5 in neu 5".
Mae 1 fodfedd tua 2.5 centimetr (1 in ≈ 2.5 cm).
Mae 12 modfedd yn hafal i 1 droedfedd (12" = 1 ft) ac mae 36 modfedd mewn llathen (36" = 1 yd).