fertigol ans

Os yw llinell yn fertigol, mae’n mynd tuag i fyny neu tuag i lawr.

Mae plân yn fertigol os yw’n baralel â chyfeiriad cyffredinol disgyrchiant.

Mae coed yn tyfu’n fertigol.

Y gwrthwyneb i fertigol yw llorweddol.