newid cyfraneddol eg
Mae cyfraneddol yn cael ei ddefnyddio wrth sôn am ddau faint sydd â pherthynas gyson rhyngddyn nhw.
Er enghraifft, mae hyd a phwysau darn o bren yn gyfraneddol.
Mae darn o bren sy’n 10 m o hyd yn pwyso 2 kg, felly:
-
• Mae darn o bren sy’n 20 m o hyd yn pwyso 4 kg
• Mae darn o bren sy’n 100 m o hyd yn pwyso 20 kg, ac yn y blaen.