data eilaidd ell

Data eilaidd yw data sydd wedi eu casglu gan rywun arall.

Er enghraifft, mae data’r Cyfrifiad Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth i ni sydd eisoes wedi ei chasglu am bobl sy’n byw yng Nghymru.

Ffynonellau eraill o ddata eilaidd yw llyfrau a phapur newydd.