siart tymheredd (siartiau tymheredd) eg
Dyma’r enw ar siart sy’n dangos pa mor boeth neu pa mor oer yw rhywun neu rywbeth dros gyfnod o amser.
Mae’r enghraifft gyferbyn yn dangos y tymheredd, mewn graddau Celsius, dros gyfnod o flwyddyn yn Qatar yn y Dwyrain Canol.
Gallwn weld bod tymheredd Qatar yn fwyn yn y gaeaf, ac yn boeth iawn yn yr haf.