data ell

Dyma’r enw ar wybodaeth o natur feintiol.

Mae’n gasgliad o ffeithiau sy’n cynnwys rhifau neu fesuriadau.

Gallwn gyfrif neu fesur y rhan fwyaf o bethau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, er enghraifft trwy gynnal arolwg.

Mae’r tabl cyferbyn yn dangos y data a gasglwyd wrth gynnal arolwg o hoff liw 20 plentyn.

Yr enw ar ddata sy’n ganlyniad i gyfrif pethau yw data arwahanol, a’r enw ar ddata sy’n ganlyniad i gymryd mesuriadau yw data di-dor.