digid (digidau) eg

Enw ar symbol sy’n cael ei ddefnyddio i gynrychioli rhif yw digid.

Y deg digid rydym yn eu defnyddio fwyaf yw 0, 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9.

Mae gwerth digid yn dibynnu ar ei safle mewn rhif.

Er enghraifft, mae tri digid yn 432. Mae’r 4 yn cynrychioli sawl cant sydd yn y rhif, mae’r 3 yn cynrychioli sawl deg sydd yn y rhif, ac mae’r 2 yn cynrychioli sawl un sydd yn y rhif.

Gallwn eu hadio at ei gilydd fel hyn:

      4 × 100 = 400
         3 × 10 = 30
           2 × 1 = 2
                    = 432