lluosi be

Arwydd: ×

Gweithrediad sy’n cyfuno dau rif i roi trydydd rhif, sef y lluoswm.

Er enghraifft, 12 × 3 = 36.

Gallwn hefyd ddisgrifio lluosi fel ychwanegu rhif ato’i hun nifer penodol o weithiau. Enw arall ar hyn yw adio ailadroddol.

Er enghraifft:

       12 × 3
    = 12 + 12 + 12
    = 36

Gweithrediad gwrthdro lluosi yw rhannu.