ffactor (ffactorau) eg

Rhif sy’n rhannu’n union i rif arall yw ffactor.

Er enghraifft, mae 1, 2, 3, 4, 6 ac 12 i gyd yn ffactorau 12.

Mae –1, –2, –3, –4, –6 ac –12 yn ffactorau 12 hefyd, gan fod lluosi dau rif negatif yn rhoi rhif positif.

Mewn algebra, gallwn luosi ffactorau gyda’i gilydd i gael mynegiad.

Er enghraifft, mae (x – 1) ac (x + 4) yn ffactorau x2 + 3x – 4 gan fod (x – 1) (x + 4) = x2 + 3x – 4.