disgownt (disgowntiau) eg
Swm sy’n cael ei dynnu o bris gwreiddiol eitem yw disgownt.
Yn aml iawn, mae cwmnïau’n cynnig disgownt i gwsmeriaid am drefnu yswiriant car ar lein. Mae’r disgownt hwn fel arfer yn cael ei roi fel canran o’r pris gwreiddiol.
Mae’n rhaid i Huw dalu £360 i adnewyddu ei yswiriant car.
Mae’r cwmni yswiriant yn cynnig disgownt o 10% iddo os yw’n fodlon ei adnewyddu ar lein.
Felly, 10% o £360 = £36, sef y disgownt.