llinell rif (llinellau rhif) eg
Dyma’r enw ar linell syth sydd â rhifau cyfan wedi eu marcio arni. Mae pob rhif cyfan yn gytbell o’i gilydd. Mae’n ddefnyddiol wrth wneud cyfrifiadau, er enghraifft adio, tynnu neu ddangos y berthynas rhwng rhifau.
Mae’r rhifau ar y chwith yn llai na’r rhifau ar y dde, ac felly mae’r rhifau ar y dde yn fwy na’r rhifau ar y chwith.
Er enghraifft:
• Mae 4 yn llai na 9
• Mae –3 yn llai na 3
• Mae 9 yn fwy na 4
• Mae 3 yn fwy na –3.