gostyngiad canrannol eg

Gwneud rhywbeth yn llai gan ganran benodol yw gostyngiad canrannol.

Mae’n cael ei gyfrifo trwy gyfrifo’r gostyngiad yn gyntaf. Yna, mae’r gostyngiad hwn yn cael ei dynnu o’r swm gwreiddiol.

Er enghraifft, mae cwmni yswiriant yn cynnig gostyngiad o 20% am drefnu polisïau ar lein.

Mae’n rhaid i Akeem drefnu polisi ar gyfer ei gar.

Mae’r cwmni yswiriant yn cynnig polisi iddo am £300, ac os bydd yn ei drefnu ar lein bydd yn cael gostyngiad o 20%.

Felly, 20% o £300 = £60.

Pris polisi Akeem o’i drefnu ar lein yw £300 – £60 = £240.

Y gwrthwyneb i ‘gostyngiad canrannol’ yw ‘cynnydd canrannol‘.

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘gostyngiad canrannol’ fel ‘lleihad canrannol’.