blwyddyn (blynyddoedd)eb
Uned sy’n mesur amser.
Mae blwyddyn yn hafal i 365 diwrnod, neu 12 mis.
Diwrnod cyntaf y flwyddyn yw 1 Ionawr a diwrnod olaf y flwyddyn yw 31 Rhagfyr.
Mae’n cymryd blwyddyn i’r Ddaear fynd o amgylch yr Haul unwaith.
Ar galendr arferol, hyd blwyddyn yw 365 diwrnod. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae’r Ddaear yn cymryd 365.25 diwrnod, neu 365 diwrnod a chwarter, i fynd o amgylch yr Haul unwaith. Felly, pob pedair blynedd rydym yn ychwanegu diwrnod naid at y calendr, sef 29 Chwefror.