misoedd y flwyddyn

Dyma’r term am y misoedd sy’n ffurfio blwyddyn gyfan.

Mae 12 mis mewn blwyddyn. Dyma’r misoedd a’r nifer o ddiwrnodau ym mhob mis yn ôl eu trefn:

    • Ionawr (31 diwrnod)
    • Chwefror (28 neu 29 diwrnod)
    • Mawrth (31 diwrnod)
    • Ebrill (30 diwrnod)
    • Mai (31 diwrnod)
    • Mehefin (30 diwrnod)
    • Gorffennaf (31 diwrnod)
    • Awst (31 diwrnod)
    • Medi (30 diwrnod)
    • Hydref (31 diwrnod)
    • Tachwedd (30 diwrnod)
    • Rhagfyr (31 diwrnod).

Mewn blwyddyn arferol 28 diwrnod sydd ym mis Chwefror. Ond, os yw’r flwyddyn yn flwyddyn naid, mae 29 diwrnod ym mis Chwefror. Mae blwyddyn naid yn digwydd bob pedair blynedd.