graff colofn (graffiau colofn) eg

Dyma’r enw ar un ffurf bosibl o gyflwyno gwybodaeth ystadegol.

Mae barrau petryal o led cyfartal yn cael eu lluniadu i ddangos maint pob gwerth. Mae hyd y barrau mewn cyfrannedd â’r amlder. Gall y barrau fod yn fertigol neu’n llorweddol, ac mae bwlch rhwng pob bar.

Er enghraifft, mae Edward yn holi 20 person i ddarganfod pa ddiwrnod o’r wythnos sydd orau ganddyn nhw.

Mae’n cofnodi’r atebion ar ffurf tabl amlder, ac yna’n eu cyflwyno ar ffurf graff colofn.

Enwau eraill ar graff colofn yw graff bar a siart bar.