triongl isosgeles (trionglau isosgeles) eg

Dyma’r enw sy’n cael ei roi ar driongl os yw hyd dwy ochr yn hafal, neu os yw maint dwy ongl yn hafal. Mae llinellau bach yn cael eu cynnwys ar ochrau’r triongl i ddangos eu bod yn hafal.

Mewn triongl isosgeles, mae’r ochr sydd o hyd gwahanol bob amser rhwng y ddwy ongl hafal.

Mae gan driongl isosgeles un llinell cymesuredd.