rhif negatif (rhifau negatif) eg

Dyma’r enw ar rif sy’n llai na sero.

Mae rhif negatif yn cael ei ysgrifennu ag arwydd minws o’i flaen, er enghraifft –5. Mae dwy ffordd o ddweud hyn: ‘minws 5’ neu ‘negatif 5′.

Gallwn weld rhifau negatif ar y llinell rif gyferbyn. Dyma’r rhifau sy’n cael eu cynrychioli gan bwyntiau i’r chwith o sero: –1, –2, –3, –4, –5 ac yn y blaen.

Y gwrthwyneb i rif negatif yw rhif positif.

Gweler hefyd rhif cyfeiriol.