dau ddimensiwn ans
Mae gwrthrych sydd mewn plân yn ddau ddimensiwn. Hynny yw, mae ganddo hyd a lled, ac nid oes unrhyw drwch iddo.
Mae’n bosibl lleoli pwynt mewn gofod dau ddimensiwn gan ddefnyddio dwy echelin sy’n berpendicwlar i’w gilydd. Fel arfer, rydym yn defnyddio’r symbolau x ac y i labelu’r echelinau, neu gallwn eu labelu yn hyd a lled.