rhombws (rhombi) eg
Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw rhombws. Mae hyd pob ochr yn hafal. Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel ac mae’r onglau cyferbyn yn hafal.
Mae gan rombws ddwy linell cymesuredd.
Math o baralelogram yw rhombws.