data ansoddol ell

Gwybodaeth sy’n disgrifio rhywbeth yw data ansoddol.

Beth allwn ni ei ddweud am y gwningen yn y llun cyferbyn?

Mae ganddi glustiau sy’n sefyll i fyny, trwyn smwt, a ffwr byr brown a gwyn.

Mae’r wybodaeth uchod yn disgrifio’r gwningen, felly data ansoddol yw hyn.

Nid yw data ansoddol yn dod i gasgliadau.