canol helaethiad eg
Mae canol helaethiad yn dweud wrthon ni o ba bwynt mae helaethiad yn cael ei fesur.
I ddarganfod canol yr helaethiad mae’n rhaid cysylltu fertigau cyfatebol y siâp gwreiddiol a’r siâp newydd, sef yr helaethiad. Yna, mae’n rhaid estyn y llinellau hyn. Y pwynt lle maen nhw’n croestorri yw canol yr helaethiad.