cyfeiliornad (cyfeiliornadau) eg

Arwydd: ±

Dyma’r term am y gwahaniaeth rhwng gwerth sy’n cael ei fesur neu ei gyfrif, a’i werth cywir.

Hynny yw, mae mesuriad sy’n cael ei fynegi i uned benodol â chyfeiliornad posibl o hanner yr uned honno.

Er enghraifft, hyd darn o bren yw 28 cm, yn gywir i’r centimetr agosaf. Gall hyd gwirioneddol y darn hwn o bren fod ag unrhyw werth rhwng 27.5 cm a 28.5 cm. Felly, y cyfeiliornad yw plws neu minws 0.5 cm sy’n cael ei ddangos fel ±0.5cm.