wyneb (wynebau) eg Dyma’r term am unrhyw un o arwynebau unigol siâp tri dimensiwn. Er enghraifft, mae gan giwb chwe wyneb sy’n sgwariau cyfath. Mae arwyneb y ciwb yn cael ei ffurfio wrth uno’r wynebau hyn.