rhif real (rhifau real) eg
Mae rhifau cymarebol a rhifau anghymarebol yn rhifau real.
Dyma’r math o rif rydym yn ei ddefnyddio fel arfer mewn mathemateg, gwyddoniaeth a chyd-destunau pob dydd.
Maen nhw’n cael eu galw’n ‘rhifau real’ oherwydd nid ydyn nhw’n rhifau dychmygol.
Mae rhifau negatif, rhifau positif, rhifau mawr, rhifau bach, rhifau cyfan a degolion yn rhifau real.
Er enghraifft, –15.5, –3, 1, 12.82 ac yn y blaen.