cilydd (cilyddion) eg

Cilydd yw gwrthdro lluosol unrhyw rif, ac eithrio sero. (Nid oes cilydd gan sero.)

I ddarganfod cilydd rhif, rydym yn rhannu 1 gyda’r rhif fel hyn:

     \frac{\textmd{1}}{\textmd{y rhif}}

Er enghraifft:

    Cilydd 3 yw \frac{1}{3}.

Wrth luosi rhif â chilydd y rhif hwnnw, rydym yn cael 1.

Er enghraifft, 3 × \frac{1}{3} = 1.