hapsampl (hapsamplau) eg
Dyma’r enw ar sampl lle mae gan bob person neu ddarn o ddata yr un tebygolrwydd o gael ei ddewis.
Mae 1000 o bobl yn defnyddio gwefan siop benodol bob dydd, ac mae angen holi 50 ohonyn nhw ynghylch eu barn am y gwasanaeth. Un ffordd o ddewis 50 person yw rhifo pob un o’r 1000 o bobl fel hyn:
-
000, 001, 002, 003, … 999.
Ar ôl gwneud hyn, gall 50 rhif tri digid gael eu dewis ar hap i gynnal yr hapsampl.