tueddol ans

Dyma briodwedd o sampl ystadegol sy’n golygu nad yw sampl yn gynrychiadol o boblogaeth ystadegol gyfan. Mae sampl tueddol yn annibynadwy am ei fod yn golygu bod rhai canlyniadau yn fwy tebygol nag eraill.

Er enghraifft, mae John eisiau darganfod pa archfarchnad sydd orau gan bobl mewn tref benodol. Er mwyn gwneud hyn, mae John yn bwriadu sefyll y tu allan i un archfarchnad yn unig, a gofyn y cwestiwn canlynol:

    Ydych chi’n cytuno mai’r archfarchnad hon yw’r un gorau yn y dref?

Mae’r math hwn o gwestiwn mewn holiadur yn dueddol.