marc rhifo (marciau rhifo) eg

Dyma’r term am farciau sy’n cael eu defnyddio i gyfrif.

Mae’n ddull o gofnodi niferoedd mewn grwpiau o bump. Mae’r pedwar rhif cyntaf yn cael eu nodi fel marciau fertigol, ac mae’r pumed rhif yn cael ei nodi fel llinell ar draws y pedwar marc fertigol. Mae hyn yn golygu ei fod yn bosibl gweld grwpiau o 5 yn rhwydd, sy’n gwneud eu cyfrif yn haws.

Mae marciau rhifo yn aml yn cael eu defnyddio wrth gynnal arolwg.

Er enghraifft, rydych yn cynnal arolwg i ddarganfod hoff liw 20 person. Mae marc rhifo yn cael ei roi wrth hoff liw pob un.

Mae’r tabl cyferbyn yn dangos y canlyniadau, a gallwn weld mai’r lliw mwyaf poblogaidd yw glas.