echelin (echelinau)eb

Echelin yw un o’r llinellau sy’n ffurfio graff.

Fel arfer, mae gan graff ddwy echelin berpendicwlar fel sy’n cael ei ddangos yma – echelin-x ac echelin-y.

Weithiau, mae gan graff dair echelin berpendicwlar – echelin-x, echelin-y ac echelin-z.

Yn aml, mae label yn cael ei roi ar bob echelin i ddangos beth sy’n cael ei fesur.