lleihau be

Lleihau yw’r term am y weithred neu’r broses o wneud rhywbeth yn llai o ran maint neu nifer.

Er enghraifft, mae gwneuthurwr siocled wedi bod yn cynhyrchu barrau o siocled sy’n pwyso 50 g ers llawer o flynyddoedd.

Mae’n penderfynu lleihau pwysau’r bar i 45 g. Mae hynny’n golygu lleihad o 5 gram i bwysau’r bar o siocled.