echelin-xeb

Dyma’r term am yr echelin lorweddol ar graff. Mae’r echelin hon yn mynd o’r chwith i’r dde.

Rydym yn plotio cyfesurynnau ar echelinau. Mae rhif cyntaf y set o rifau, sef y cyfesuryn-x, yn dweud wrthon ni pa mor bell i symud i’r chwith neu i’r dde ar hyd yr echelin-x.