fformiwla gwadratig (fformiwlâu cwadratig)eb

Mae fformiwla gwadratig yn cael ei defnyddio i ddatrys hafaliadau cwadratig cyffredinol yn y ffurf ax² + bx + c = 0, lle mae a, b, c yn gyfernodau ac x yw’r newidyn.

Mae a, b ac c yn gyfernodau sy’n wahanol i bob hafaliad.

Gadewch i ni ddefnyddio’r hafaliad 2x² + 7x + 11 = 0 fel enghraifft.

Yma, mae a = 2, b = 7, c = 11.

Y fformiwla sy’n cael ei defnyddio i ddatrys yr hafaliad yw:

     x = \frac{-b\pm\sqrt{b^2-4ac}}{2a}