rhif positif (rhifau positif) eg
Dyma’r enw ar rif sy’n fwy na sero.
Mae rhif positif naill ai’n cael ei ysgrifennu ag arwydd plws o’i flaen, er enghraifft +5, neu’n cael ei ysgrifennu fel rhif ar ei ben ei hun, er enghraifft 5. Mae tair ffordd o ddweud hyn: ‘plws 5’, ‘positif 5’ neu ‘5’.
Gallwn weld rhifau positif ar y llinell rif gyferbyn. Dyma’r rhifau sy’n cael eu cynrychioli gan bwyntiau i’r dde o sero: 1, 2, 3, 4, 5 ac yn y blaen.
Y gwrthwyneb i rif positif yw rhif negatif.
Gweler hefyd rhif cyfeiriol.