maint (meintiau)eg
Mae maint yn cyfeirio at ba mor fawr neu fach yw rhywbeth.
Mae sawl ffordd o ddehongli ‘maint’:
(1) Gall fod yn fesuriad, er enghraifft uchder. Maint Tŵr Eiffel yw 301 metr.
(2) Gall gyfeirio at faint, er enghraifft un rhif o’i gymharu â rhif arall. Mae 12 yn fwy na 9.