rheol trapesiwm eb
Mae’r rheol trapesiwm yn cael ei defnyddio i amcangyfrif yr arwynebedd dan gromlin ar graff.
I wneud hyn, mae’r arwynebedd yn cael ei rannu’n stribedi paralel sy’n hafal o ran lled. Trapesiwm yw siâp pob stribed.
Trwy gyfrifo arwynebedd pob trapesiwm ac adio gwerth pob un, rydym yn gallu amcangyfrif yr arwynebedd dan y gromlin.