rhif trefnol (rhifau trefnol) eg
Rhif sy’n disgrifio safle rhywbeth mewn cyfres yw rhif trefnol.
Er enghraifft: cyntaf (1af), ail (2il), trydydd (3ydd), pedwerydd (4ydd), degfed (10fed), ugeinfed (20fed) ac yn y blaen.
Edrychwch ar y llun cyferbyn.
Y car coch sy’n croesi’r llinell derfyn yn gyntaf ac sy’n ennill y ras. Y car gwyrdd sy’n ail, a’r car melyn sy’n drydydd.