sin eg

Mae sin (neu sine yn llawn) yn ffwythiant trigonometrig sy’n rhoi’r gymhareb rhwng dwy ochr benodol mewn triongl ongl sgwâr.

Mewn triongl ongl sgwâr, mae un ongl yn 90° ac mae’r ddwy ongl arall yn onglau llym.

Gadewch i ni labelu un o’r onglau llym yn θ.

Sin yr ongl hon yw’r gymhareb rhwng hyd yr ochr sydd gyferbyn â’r ongl θ a hyd yr hypotenws (yr ochr sydd gyferbyn â’r ongl sgwâr).

Felly, y ffwythiant yw:

    \text {Sin} \theta = \dfrac{\text {cyferbyn}}{\text{hypotenws}}