dilyniant rhifyddol eg
Dilyniant o rifau lle mae rhif cyson yn cael ei adio neu ei dynnu i gael y rhif nesaf yw dilyniant rhifyddol.
Dyma enghraifft o adio rhif cyson:
3, 11, 19, 27, 35, 43, …
Mae gwahaniaeth o 8 rhwng pob rhif.
Mae’r canlynol yn enghraifft o dynnu rhif cyson:
4, –1, –6, –11, –16, –21, …
Mae gwahaniaeth o 5 rhwng pob rhif.