cyflog (cyflogau) eg
Dyma’r term am y tâl mae person yn ei ennill am gyfnod o wasanaeth.
Mae’r tâl hwn yn seiliedig ar swm penodol pob mis neu bob blwyddyn, ac mae fel arfer yn cael ei dalu’n wythnosol neu’n fisol.
Er enghraifft, mae Siwan yn ennill cyflog o £21 000 y flwyddyn, ac mae hi’n cael ei thalu’n fisol:
-
£21 000 ÷ 12 = £1750
Felly, mae Siwan yn cael cyflog o £1750 pob mis.