rhif sgwâr (rhifau sgwâr) eg Canlyniad lluosi rhif ag ef ei hun yw rhif sgwâr. Er enghraifft, sgwâr y rhif 6 yw 36, sef 6 × 6. Felly, mae 36 yn rhif sgwâr. Dyma’r pump rhif sgwâr cyntaf: 1 (= 1 × 1) 4 (= 2 × 2) 9 (= 3 × 3) 16 (= 4 × 4) 25 (= 5 × 5)