amcangyfrif o’r cymedr eg
Pan mae data arwahanol neu ddata di-dor wedi eu grwpio mewn tabl amlder, mae’n amhosibl cyfrifo’r cymedr yn union. Er hynny, gallwn gyfrifo amcangyfrif o’r cymedr gan ddefnyddio’r gwerth canol.
Gadewch i ni ddefnyddio’r enghraifft gyferbyn.
Mae’r data yn dangos hyd y galwadau ffôn sy’n cael eu gwneud mewn swyddfa dros gyfnod o un wythnos.
Mae’r golofn gyntaf yn dangos hyd y galwadau ffôn; y cyfwng dosbarth yw 5. Mae amlder y galwadau hyn i’w weld yn yr ail golofn. Mae’r drydedd golofn yn dangos gwerth canol hyd y galwadau.
Er mwyn cyfrifo gwerth fx pob grŵp, rydym yn lluosi’r amlder (f) â’r gwerth canol (x).
Yna, rydym yn cyfrifo cyfanswm y golofn f a chyfanswm y golofn fx.
Yn olaf, rydym yn rhannu cyfanswm fx â chyfanswm f er mwyn cael amcangyfrif o’r cymedr.
Felly, yn yr enghraifft hon, yr amcangyfrif o’r cymedr yw 2730 ÷ 300 = 9.1 munud neu 9 munud 11 eiliad.