dyddiau’r wythnos
Dyma’r term am y diwrnodau sy’n ffurfio wythnos gyfan.
Mae 7 diwrnod mewn wythnos. Dyma’r diwrnodau yn ôl eu trefn:
-
• dydd Llun
-
• dydd Mawrth
-
• dydd Mercher
-
• dydd Iau
-
• dydd Gwener
-
• dydd Sadwrn
-
• dydd Sul.
Y drefn uchod yw’r drefn safonol ryngwladol, ond mae llawer o bobl a llawer o wledydd yn dal i ystyried dydd Sul fel diwrnod cyntaf yr wythnos, nid dydd Llun.